TrydaNi logo

Ynghylch

Cymraeg
TrydaNi logo

Ynghylch

Cymraeg
TrydaNi logo

TrydaNi yn lansio cam cyntaf ei rwydwaith clybiau ceir trydan

4 December 2024

TrydaNi car gydag cymylau
TrydaNi car gydag cymylau
TrydaNi car gydag cymylau

Heddiw, mae TrydaNi - Cymdeithas Budd Cymunedol nid-er-elw a gefnogir gan Lywodraeth Cymru - yn lansio cam cyntaf rhwydwaith clybiau ceir trydan newydd a fydd yn gwasanaethu rhannau helaeth o gefn gwlad Cymru.

Mae ei wefan newydd trydani.org yn esbonio holl fanylion clybiau ceir presennol y rhwydwaith, a sut y gall cymunedau ac unigolion fynegi diddordeb mewn sefydlu eu clwb lleol eu hunain.

Gall aelodau ymuno drwy'r wefan ac unwaith y cânt eu cymeradwyo gallant lawrlwytho ap sy'n eu helpu i ddod o hyd i gerbydau a'u harchebu, heb fod angen allwedd ffisegol. 

Mae TrydaNi yn dod â nifer o brosiectau presennol ynghyd gan gynnwys dau glwb ceir hirsefydlog yn y Canolbarth – Machynlleth a Llanidloes – a drawsnewidiodd i gerbydau trydan dan yr enw TripTo, ac sydd bellach yn rhan o rwydwaith TrydaNi.

Mae'r gwasanaeth newydd sy'n lansio heddiw hefyd yn ymgorffori gwersi a ddysgwyd o brosiect dwy flynedd a ariennir gan y Loteri o'r enw "Charge Up Cymru", sydd wedi'i ddeori a'i brofi gan Ynni Cymunedol Cymru a'i rwydwaith o bartneriaid ynni cymunedol.

Ym mis Mawrth, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyllid o £1m ar gyfer TrydaNi a'i bartner cyllid cymunedol, Robert Owen Community Banking. Mae'r arian yn cael ei ddefnyddio i sefydlu'r rhwydwaith o glybiau fel y gall cymunedau ledled Cymru dreialu'r gwasanaeth newydd ac archwilio dewisiadau amgen carbon isel, cost isel i berchnogaeth ceir confensiynol.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a'r Gogledd, Ken Skates:

"Rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gallu ariannu'r cynllun hwn. Mae prosiectau fel hyn yn hanfodol ac nid oes modd tanamcangyfrif eu pwysigrwydd, yn enwedig mewn cymunedau gwledig."

Gweledigaeth hirdymor TrydaNi yw i'r cerbydau trydan yn ei rwydwaith gael eu pweru gan ynni adnewyddadwy cymunedol sy'n cael ei gyhyrchu'n lleol, gan gadw costau'n isel a rhoi hwb i annibyniaeth ynni Cymru.

I gyd-fynd â lansiad y wefan newydd, mae dau glwb newydd yn mynd yn fyw ym mis Rhagfyr mewn partneriaeth â sefydliadau cymunedol lleol. 

Mae Partneriaeth Ogwen yn helpu i lansio clwb newydd ym Methesda (ar ôl partneru â'r gwasanaeth rhannu ceir o Loegr Co-Wheels yn flaenorol) ac mae Hwb Eco Aber yn lansio ei glwb yn Aberystwyth (gan ymuno â chlybiau cyfagos ym Machynlleth a Phenrhyn-Coch), ochr yn ochr â'i fentrau cynaliadwyedd cymunedol eraill fel llogi E-feiciau a chaffis trwsio rheolaidd.